Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
28 Chwefror 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4909
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.06
Gofynnwyd y 3 chwestiwn.
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
Dechreuodd yr eitem am 15.16
Gwnaeth Simon Thomas ddatganiad ar Aber-porth di-blastig
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar Mis Hanes LGBT 2018
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad ar y Brecwast Gweddi Seneddol Gŵyl Ddewi Cychwynnol
Dechreuodd yr eitem am 15.21
NDM6663 Mick Antoniw (Pontypridd)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad i Lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2018.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6668 Paul Davies (Preseli Penfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gyhoeddi, gyda'r golygiadau priodol er mwyn sicrhau bod y tystion yn parhau i fod yn anhysbys, yr adroddiad i'w hymchwiliad ynghylch a oes unrhyw dystiolaeth y cafodd gwybodaeth ei rhannu o flaen llaw heb ganiatâd - hynny yw, y datgelwyd gwybodaeth heb ganiatâd - gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr ad-drefnu gweinidogol diweddar.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
26 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.40
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6669 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd
democratiaeth hyfyw yng Nghymru.
2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV
Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr
bresennol.
3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar
radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion
Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio
ymhellach.
4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn
natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a
Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o
gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys.
5. Yn cytuno y dylai fod ystyriaeth lawn o ddatganoli cyfrifoldebau
dros ddarlledu i Gymru.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio ymarferoldeb datganoli
pwerau dros ddarlledu i Gymru ac adrodd yn ôl i’r
Cynulliad o fewn blwyddyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
1 |
38 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu Pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi y parheir i ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams.
Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol.
Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
22 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei dad-ddethol.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
8 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
1 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
8 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6669 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darlledu i gynaliadwyedd
democratiaeth hyfyw yng Nghymru.
2. Yn pryderu am y cwymp sylweddol yn nifer oriau darlledu ITV
Cymru a'r toriadau sylweddol i S4C a'i sefyllfa ariannol ansicr
bresennol.
3. Yn pryderu ymhellach am sefyllfa darlledu Cymraeg a Chymreig ar
radio masnachol a theledu lleol ynghyd ag effaith cynigion
Llywodraeth y DU i ddad-reoleiddio'r farchnad radio
ymhellach.
4. Yn nodi bod angen i Gymru fod ar flaen y gad yn
natblygiadau technolegau cyfryngol ac i ddarlledu Cymraeg a
Chymreig fod ar nifer helaethach o blatfformau a dulliau o
gynhyrchu, cyhoeddi a dosbarthu cynnwys.
5. Yn nodi y parheir i
ddisgwyl i’r Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a
Chwaraeon gyhoeddi’r adolygiad annibynnol o S4C sy’n
cael ei gynnal gan Euryn Ogwen Williams.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a darlledwyr i sicrhau bod darlledu yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru’n cael ei gyllido’n ddigonol.
7. Yn cydnabod y dylai darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus fod yn gwbl atebol i holl seneddau cenedlaethol y Deyrnas Unedig, fel ag sy’n briodol i’w cylch gwaith.
8. Yn nodi'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i ddarparu digon o arian i S4C er mwyn iddi gyflawni ei phwrpasau.
9. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad i bwyso ar gyfer cadw'r rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth y DU i roi digon o arian i S4C i'w galluogi i gyflawni ei dibenion er mwyn ariannu unrhyw ddibenion estynedig y gallai ddod i feddiant S4C yn dilyn adolygiad Ogwen.
10. Yn nodi'r rhwymedigaethau cynyddol a osodir ar y BBC o ran portreadu a chomisiynu yn y cenhedloedd a'r rhanbarthau yn ei siarter newydd.
11. Yn nodi bod system ddarlledu genedlaethol ar gyfer y DU mewn gwell sefyllfa i gyrraedd yr holl genhedloedd a rhanbarthau i hyrwyddo dealltwriaeth o ddatganoli, er ei bod wedi methu â gwneud hynny hyd yma.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
8 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.09
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6670 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig o undeb tollau presennol yr UE, yn hytrach nag undeb tollau newydd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
43 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl; gan adeiladu perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o’r UE.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
25 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6670 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i weld Cymru a’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn Undeb Tollau gyda’r UE, er mwyn integreiddio gydag economïau ein cymdogion agosaf gymaint ag sy’n bosib wrth beidio â bod yn aelod-wladwriaeth o’r UE.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
23 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.44
Yn dilyn pleidlais y Cynulliad o blaid y cynnig a gyflwynwyd ar y cyd gan Paul Davies a Rhun ap Iorwerth yn galw ar yr Ysgrifennydd Parhaol i gyhoeddi ei hadroddiad diweddar ar ddatgelu gwybodaeth heb ganiatâd am ad-drefnu’r Cabinet, cododd Paul Davies Bwynt o Drefn i geisio cyfarwyddyd gan y Llywydd ar statws y bleidlais honno ac a ddylid ei pharchu. Nododd y Llywydd fod unrhyw bleidlais y Cynulliad Cenedlaethol yn bwysig ac yn cael effaith, a phenderfyniad y Llywodraeth ydyw nawr i benderfynu sut y mae’n dewis ymateb; er y byddai’n disgwyl i’r Llywodraeth gymryd unrhyw benderfyniad a gaiff ei basio gan y senedd hon o ddifrif.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.51
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 6 Mawrth 2018